daeryddiaeth
Mae Cymru’n wlad brydferth, yn wlad hanesyddol, yn wlad o wrthgyferbyniadau.
Dim ond 8,000 milltir sgwâr (20,640 cm sgwâr) yw hi o faint, 160 milltir o hyd a 60 milltir o led (257,44 cm a 96.54 cm) ond ag arfordir o 750 milltir (1,200 cm).
Fe geir gwastadeddau uchel yng Nghymru gyda chadwyni o fynyddoedd, dyffrynnoedd dyfnion ac afonydd a nentydd yn llifo’n gyflym. Mae’r iseldiroedd yn bennaf ger yr arfordir ac yn y dyffrynnoedd llydan.
Bryniau a mynyddoedd cadarn syn nodweddu rhan helaeth o’r wlad. Yn y gogledd ceir cadwyni o fynyddoedd mawreddog, mewn mannau yn cyrraedd bron i’r môr, gyda dyffrynnoedd coediog serth a nentydd yn llifo drwyddynt. Drwy ganoldir Cymru, i lawr i’r de, ceir mwy o gadwyni sy’n rhoi golygfa amrywiol a godidog o fawredd a harddwch.

Yr Wyddfa, Eryri, Cymru.
Ar un adeg ‘roedd cyfoeth o lo a llechi yn dod o’r bryniau a’r mynyddoedd hyn a datblygodd trefi i weithio’r diwydiannau oedd yn defnyddio’r adnoddau hynny. Deheudir Cymru sydd â’r datblygiad diwydiannol mwyaf a chanddo’r boblogaeth fwyaf; allan o gyfanswm o ychydig llai na thair miliwn, mae bron i ddeuparth yn byw yn y trefi a’r dinasoedd yn y deheubarth.
Mae ar yr arfordir nifer o draethau naturiol sydd wedi denu diwydiant ymwelwyr llwyddiannus. Daw nifer o bobl drwy gydol y flwyddyn i fwynhau hwylio, pysgota a gweithgareddau dwr eraill. Bydd teuluoedd yn ymweld â’r trefi gwyliau i ymlacio ar y traeth neu i weld yr amryw gestyll a’r safleoedd hynafol hanesyddol eraill sydd mor enwog yng Nghymru.
Daw miloedd o bobl bob blwyddyn i’r wlad brydferth hon i fwynhau chwaraeon ac adloniant a thwristiaeth yw’r prif gyflogwr yn y rhan fwyaf o’r wlad. Mae rhai yn dod am weithgareddau cyffrous, eraill am yr hedd a’r tawelwch.
Ceir nifer fawr o ffermydd bychain trwy Gymru i gyd, ffermio llaeth a ffermio cymysg wrth yr arfordir a ffermio defaid yn bennaf yn y bryniau a’r mynyddoedd. Yn ardaloedd yr ucheldir mae yna hefyd ddiwydiant coedwigaeth sylweddol hefyd. Mae’r rhan fwyaf o’r diwydiannau trwm, y pyllau glo, haearn a dur wedi dod i ben erbyn hyn, gan fod defnyddiau rhatach i’w cael o’r cyfandir. Er fod yna rai diwydiannau newydd yn seiliedig ar dechnoleg yn y de, mae diweithdra yn dal yn uchel iawn mewn nifer o lefydd.