diwylliant
Er gwaethaf pwys yr iaith Saesneg, mae cymeriad y diwylliant Cymreig wedi parhau. Yn y 19eg ganrif bu adfywiad o’r cystadlaethau blynyddol mewn barddoniaeth a cherddoriaeth y delyn. Heddiw mae’r Eisteddfod yn cynnwys corau a bandiau, arlunio a dawnsio, actio, llefaru ac ysgrifennu storïau, i gyd yn yr iaith Gymraeg. Bydd ysgolion yn cynnal eu cystadlaethau eu hunain i annog yr ifanc i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Mae adfywiad y diddordeb ym mhob peth Cymreig wedi golygu fod gan bobl synnwyr newydd o’u hunaniaith. Yn dilyn mwy a mwy o alw yn ail hanner yr 20fed ganrif am ganiatau i’r Cymry wneud penderfyniadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u gwlad a’u diwylliant, daeth y Cynulliad Cymreig i fod yn 1999.
Gwneir mwy o ddefnydd o’r anthem genedlaethol ym myd chwaraeon, yn arbennig mewn gemau rygbi, - mae pêl droed rygbi’n gêm egnïol ac yn boblogaidd iawn yn enwedig yn y de. Mae’r brifddinas, Caerdydd yn ymfalchïo yn Stadiwm y Mileniwm sy’n fodern iawn ac sy’n cael ei ddefnyddio, nid yn unig ar gyfer achlysuron chwaraeon Cymreig, ond hefyd ar gyfer gemau pwysig o rannau eraill o Brydain yn ogystal â chyngherddau pop a dathliadau.

Rwgbi Pel Droed.
Ble bynnag yr ewch chi yn y wlad fe welwch y faner Gymraeg – cefndir o wyrdd a gwyn gyda draig goch fawr. Mae yna faner arall, sydd wedi dechrau cael ei defnyddio eto gan Gristnogion sy’n well ganddynt y cefndir tywyll a chroes aur baner Dewi Sant, nawddsant Cymru ers y 12fed ganrif, sy’n cynrychioli goleuni’r efengyl yn llewyrchu drwy’r tywyllwch.

Baner Sant Dafydd.