eglwys
Erbyn i’r Rhufeiniaid adael Prydain, ‘roedd Cristnogaeth wedi hen ymsefydlu a gyrrwyd yr hen dduwiau Celtaidd ymaith i fyd chwedloniaeth. Datblygodd yr eglwys Geltaidd eu dull arbennig o addoli a’u bywyd eglwysig eu hunain; mewn llawer man fe dyfodd cymunedau bychain o gwmpas y llan, tir amgaeëdig lle byddai dysgawdr duwiol yn byw. I ddechrau ‘roedd yna nifer o wahaniaethau rhwng yr eglwys Geltaidd ag Eglwys Rufain ond yn raddol fe’i cymerwyd i mewn i Eglwys Rufain ac erbyn yr 16eg ganrif ‘roedd pedair esgobaeth Cymru yn dod o dan archesgob Caergaint. Pan dorrodd Eglwys Loegr ymaith o Rufain, fe fu raid i’r eglwys yng Nghymru hefyd dorri cysylltiad â Rhufain.
Sylweddolodd y Frenhines Elisabeth 1 na allai’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ddarllen y llyfr gweddi a’r Beibl yn Saesneg ac felly gorchmynnodd iddynt gael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Cwblhaodd yr Esgob William Morgan y cyfieithiad cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588 ac wrth wneud hynny, nid yn unig y daeth â’r Ysgrythur o fewn cyrraedd pobl gyffredin ond chwaraeodd ran holl bwysig mewn diogelu’r iaith Gymraeg ei hun. Fe wnaeth yr iaith farddonol a gaed ynddo y Beibl Cymraeg yn boblogaidd iawn ac yn fuan cwblhawyd cyfieithiad adolygedig gan Dr. John Davies. I nifer o deuluoedd dyma’r unig lyfr y gallent ei fforddio.
"Mae’n amhosibl credu y byddai Duw wedi gweld yn dda gadw’r iaith hon yn fyw tan y dyddiau hyn, ar ôl cymaint o argyfyngau yn hanes y genedl … onid oedd wedi bwriadu y gelwid ar Ei enw ac y byddai Ei weithredoedd mawrion yn cael eu cyhoeddi ynddi." Dr. John Davies.
Ni fu i Eglwys Loegr ffynnu i unrhyw raddau yng Nghymru gan fod ei harweinwyr yn Saeson gan mwyaf ac anaml y byddent yn ymweld â’u hesgobaethau; daeth fwyfwy yn eglwys y bonedd ac yn raddol daethant hwy i beidio â defnyddio’r iaith Gymraeg a mabwysiadu dulliau Saesnig. Yn y diwedd, yn 1919 fe ddaeth yn Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ond erbyn yr adeg hon ‘roedd cystadleuaeth wedi datblygu rhwng eglwys a chapel.
Fe ddaeth toreth o eglwysi newydd yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Dechreuodd nifer o’r rhain mewn ardaloedd diwydiannol, gan rannu’r efengyl a gweinidogaethu i’r rhai’n gweithio yn y pyllau glo a’r chwareli llechi. Fe enillodd y Methodistiaid, Bedyddwyr a’r Annibynwyr niferoedd mawr gan fod cymaint yn cael troedigaeth fel canlyniad i’r aml ddiwygiadau a deffroadau. ‘Roedd cynulleidfaoedd y capeli yn Gymraeg eu hiaith ac ‘roedd brwdfrydedd y canu a’r pregethu fel ei gilydd yn apelio at y natur Celtaidd.
Ddechrau’r 20fed ganrif fe welwyd deffroad ysbrydol mawr yng Nghymru. Fe ddefnyddiodd Duw efengylwr ifanc annysgedig, a fu’n gweithio fel glöwr a gof i droi’r genedl yn ôl ato’i Hun. Ysgrifennwyd yn helaeth am hanes Evan Roberts a Diwygiad Cymreig 1904. O fewn blwyddyn ysgubwyd 100,000 o bobl i mewn i deyrnas Dduw. Dim ond am ychydig o flynyddoedd y parhaodd symudiad Duw ond mae ei effaith wedi parhau lawer hirach.
Adeiladwyd a llanwyd nifer o gapeli newydd yr adeg hon a dylanwadwyd yn fawr ar gymdeithas. Dywedwyd, fodd bynnag, fod yna rai o fewn yr eglwys nad oeddynt eisiau diwygiad. Fe welodd y Rhyfel Byd cyntaf, 1914-1918, nifer o ddynion ifanc duwiol yn cael eu galw i’r lluoedd arfog i ymladd ar feysydd y gad yn Ewrop. Ni ddychwelodd llawer ohonynt ac effeithiodd hyn hefyd ar fywyd yr eglwys yng Nghymru.
Yn dilyn yr ail Ryfel Byd, 1939-1945, yn ail hanner yr 20fed ganrif, fe welwyd dirywiad yn yr eglwys yng Nghymru. Fe gaewyd nifer o gapeli, a throwyd hwy’n weithdai, yn stordai neu’n anheddau preifat. Cedwir rhai adeiladau oherwydd eu diddordeb hanesyddol ond maent yn anodd ac yn ddrud i’w cynnal a’u cadw. Mewn llawer man mae’r cynulleidfaoedd yn bobl mewn oed, mae’r nifer wedi lleihau a gall y rheiny sydd ar ôl deimlo’n ddigalon. Mae’r darlun yn gyffredinol yn un trist.
Eto mae yna nifer o eglwysi sy’n ffynnu ac yn tyfu a llawer o Gristnogion sy’n credu fod Duw wedi addo dod â diwygiad eto i’r wlad hyfryd ac anghenus hon. Gofynnwn i chi ymuno â ni i weddïo dros Gymru, er mwyn i’r genhedlaeth hon glywed y newyddion da ac i ymateb o’r newydd i gariad Duw yn Iesu.