hanes

Mae’r golygfeydd tawel yn gwrthgyferbynnu â hanes Cymru a fu yn aml yn un cythryblus, o frwydro yn erbyn ymosodiad gan gymdogion agos a chan goncwerwyr o bell. Fe fu’r bryniau yn aml yn noddfa i guddio’r bobl rhag eu gormeswyr ac yn rhwystr yn erbyn gelynion llai penderfynol.

Fe gododd yr ymsefydlwyr cynnar o gyfandir Ewrop yr adeiladweithiau anferth o garreg a’r siambrau claddu a welir mewn amryw rannau o’r wlad. Dros y canrifoedd dilynodd eraill a daethant yn gymunedau ffermio sefydlog. ‘Roedd ganddynt sgiliau gweithio gyda metel, cloddio am gopr yn arbennig a buont yn datblygu offer a gemwaith cywrain. Adwaenid y Celtiaid hyn fel pobl nerthol a chanddynt ryfelwyr ffyrnig ond amharwyd ar eu gwareiddiad gan ryfela rhwng y llwythi a medrodd y llengoedd Rhufeinig mwy disgybliedig eu gorchfygu a’u trechu mewn rhan helaeth o Ewrop.

Pentre Ifan siambr angladd.

 

Ym Mhrydain, ciliodd y Celtiaid i’r ardaloedd mynyddig gan ddal eu gafael ar ran helaeth o’u diwylliant, eu hiaith a’u credoau. Fe gymerodd ffurf Frythoneg yr iaith Geltaidd nifer o eiriau Lladin ond parhaodd fel iaith hynafol, ar wahân. ‘Roedd crefydd yr adeg honno, Derwyddiaeth, yn ymwneud â chadw’r traddodiadau, yn bennaf yn ymwneud â’r byd naturiol, gan addoli’r duwiau y credent oedd yn ei reoli. ‘Roeddent yn mawrygu rhyfela, yn hebrwng rhyfelwyr y llwythi i faes y gad ac yn dathlu gyda gwleddoedd mawreddog. Fe lwyddodd y Rhufeiniaid i ladd y derwyddon ond yn ystod eu goresgyniad o Brydain o 400 mlynedd ni lwyddasant i drechu’n hollol wrthsafiad ffyrnig y Celtiaid; ‘roedd yn well ganddynt sefydlu caerau ar safleoedd strategol yn y de a’r gogledd er mwyn diogeli’r pyllau plwm, tun ac aur.

Hyd yn oed cyn i’r Rhufeiniaid adael Prydain, dechreuodd Celtiaid Goedelaidd o Iwerddon ymosod ar arfordir Cymru ac ymsefydlu yno. Fe barhaodd y ddau grwp hwn o bobloedd Celtaidd yn elynion tan ddiwedd y 6ed ganrif, pan ddechreuodd yr Eingl-Sacsoniaid ymosod ar Gymru, yna ‘roedd yn well ganddynt ymuno yn erbyn y bygythiad newydd. Fe roesant enw newydd iddynt eu hunain – Cymry, y bobl. Fe ddilynodd ymosodiadau pellach gan y Pictiaid, Llychlynwyr a’r Normaniaid. Cymerodd y rhai olaf beth o’r tiroedd gorau gan adeiladu cestyll i ddal eu gafael ar eu gorchfygiadau.

Castell Chepstow.

 

Gwelodd y Canol Oesoedd y tywysogion Cymreig yn gwrthsefyll yn gyson ormes o Loegr. Cydnabuwyd Llewelyn ap Gruffydd gan yr orsedd Seisnig fel Tywysog Cymru ond ar ôl iddo gael ei ladd yn brwydro yn erbyn Edward 1, cymerwyd ei diroedd, penododd Edward ei fab ei hun yn Dywysog Cymru Saesneg cyntaf Cymru a rheolwyd rhan helaeth o Gymru gan y Barwniaid Saesnig.

Bu gwrthdaro cyson rhwng y Cymry a’r arglwyddi hyn, gan ddiweddu gyda gwrthryfel dan Owain Glyndwr a lwyddodd bron i drechu’r Saeson. Yna pasiwyd deddfau i rwystro Cymry rhag cario arfau ac yn eu gwahardd rhag bod yn berchen tir yn Lloegr neu’r trefi Saesnig oddi mewn i Gymru. Yn naturiol, achosodd y deddfau hyn gryn anfodlonrwydd trwy Gymru gyfan gan achosi’r Cymry gael eu gweld fel dinasyddion eilradd.

Yn y diwedd yn yr 16eg ganrif unwyd Cymru a Lloegr trwy ddeddf seneddol. Daeth Saesneg yn iaith swyddogol Cymru, er yr adeg honno ‘roedd y Cymry’n siarad eu hiaith eu hunain. Yn y 19eg ganrif gwaharddwyd plant rhag siarad Cymraeg mewn ysgolion eglwysig a dim ond yn gymharol ddiweddar y mae;r iaith wedi dechrau adfywio’n sylweddol.