iachad mewnol

Mi wnes addo i mi fy hun unwaith, y byddwn yn dweud wrth yr holl fyd sut y llwyddais i stopio ysmygu – os byth y gwnawn.
 
Yn 1978 `roeddwn yn mynd trwy ysgariad, `roedd gennyf ddwy ferch fach tair a phump oed, un diwrnod `roeddwn yn teimlo’n ddigalon wrth ddychwelyd i’m cartref ym Mryn-Y-Maen, eisteddais yn y car am sbel yn gwrando ar y radio, clywais ddiwedd neges pregethwr, dywedodd y
gall Duw ddod a daioni o sefyllfa ddrwg, arhosodd y geiriau yna gyda mi.

`Roedd y ddwy flynedd ar ôl yr ysgariad ddim y rhai hapusaf o’m bywyd, fy niddordebau arwahan i’m dwy ferch oedd Tenis a Badminton, ond gan fy mod yn ysmygu bron i ugain  sigaret y dydd, `roeddwn ddim yn iach. Sut bynnag `roeddym yn arfer ymweld a’m mam ym Mhorthmadog yn aml, ac yr oedd hi yn gymorth aruthrol i mi.

`Roeddwn yn chwilio am atebion i’r problemau  yn fy mywyd, `roeddwn yn hoff o wrando ar Dystion Jehovah a’r Mormoniaid, ac wrth fod gennyf ffrind ynghlwm ag ysbrydegiaeth `roeddwn yn darllen cylchgronau sêrddewiniaeth, mi wnes hyd yn oed ddarllen Beibl y ffeindiais yn anodd iw ddeall. Siaradodd fy ffrind am ysbrydegydd y bu’n ymweld er mwyn ceisio cysylltu a’i mam oedd wedi marw;`roedd yn gofidio un diwrnod pan yr oedd pethau yn ei thÅ· yn cael eu symud o un lle i’r llall, a chlywodd swn traed ar y grisiau pan nad oedd neb yno.

Nawr tua’r amser yma gwnaeth fy mam fy ngwahôdd i’w heglwys hi ym Mhorthmadog, `roeddwn yn gyndyn o fynd ar y cychwyn ond gwyddwn fy mod angen cymorth, `roeddwn wedi mynd yn isel fy ysbryd yn sydyn heb ddim rheswm amlwg, Death y Sul Medi 28ain  Wedi cyfarfod dymunol gofynais i wraig wrth y stondin lyfrau os oedd ganddynt lyfrau ar ysbrydegiaeth (yn meddwl am fy ffrind) rhoddwyd imi wybodaeth ar y cwltiau, a dau lyfryn a’r teitl ‘ Taith i Fywyd.’ Un bob un inni, `rwy’n cofio meddwl i fy ffrind fod a mwy o’i angen na mi. Fodd bynnag y noson honno darllenais fy llyfryn, ni wyddwn fod fy mywyd ar fin newid, `roedd yn disgrifio fel y mae Iesu eisiau dod i mewn  i’n bywydau a byw yn ein calonnau.

Awgrymodd y llyfryn fy mod yn gofyn i Iesu ddod i mewn i’m calon, dim ond agor y drws ac fe ddaw i mewn.- felly beth oedd gennyf iw golli? Gofynais i Iesu ddod mewn i’m calon, dechreuais siarad ag Ef yn naturiol a chefais gadarnhad y byddai popeth yn iawn rwan.

Am y tri niwrnod nesa yr oeddwn yn llawen iawn, gadawodd yr iselder fi; galwodd gwraig o’r eglwys yn nhÅ· fy mam y diwrnod wedyn, a phan ddywedais wrthi beth oedd wedi digwydd cofleidiodd fi, gwyddwn fy mod wedi gwneud rhywbeth oedd yn iawn am newid! Cynghorodd fi i fynd i  eglwys ar ôl dychwelyd adref , cymerodd dipyn o ymdrech ar fy rhan i ond mi wnes.

Edrychodd teulu ffeind iawn yn yr eglwys yma ar fy ôl , yn anffodus `roedd y wraig yn asmatig, ac ni fedrai ddygymod a’m ysmygu. Wel yn fuan wedi hynny sylweddolais  fy mod yn fwy sicr o’m mewn fy hun, ac nad oedd gennyf angen y sigarets mwyach.

Gofynais i Iesu i ddileu y chwant ac fe wnaeth, mi stopiais ysmygu yn 1980 ac nid wyf wedi ysmygu oddi ar hynny! Mae hynny bron i bum mlynedd ar hugain yn ol. Rhoddais y sêrddewiniaeth i fyny hefyd.

Joyce. Gogledd Cymru