newynu am gariad
Pan oeddwn yn tyfu i fyny ‘roedd bywyd yn galed iawn, glanhawr ffenestri oedd fy nhad, ac yr oedd amseroedd da pan y cawsom brydau poeth a dillad parchus iw gwisgo, ond ‘roedd yna amseroedd eraill pan yr oedd yn yfed am wythnosau a misoedd ac nid oedd dim bwyd am fod yr holl arian wedi mynd.
‘Rwy’n dal i gofio teimlad o fynd i’r ysgol yn llwgu, a mynd i’r gwely wedi llwgu hefyd. Ni allwn fynd i bartion, doedd gen i ddim dillad digon parchus iw gwisgo , ac yr oedd yn rhaid golchi fy unig ffrog dros nos pan oedd yn fudr. ‘Roedd fy mam yn berson balch nad oedd am ofyn am unrhyw gymorth, felly ni fedrwn hyd yn oed gael cinio yn nhÅ· fy ffrind, er fod ein tÅ· ni wastad yn lan ni fyddai’n gadael i ni gael ffrindiau atom i weld mor dlawd oeddym.
‘Roeddwn yn mwynhau mynd i’r ysgol Sul a gwyddwn fod Duw yn bod, ‘rwy’n cofio Ei weld yn ateb gweddiau pobl. ‘Roedd fy mam yn ofergoelus ac ofnus ofnadwy, ‘roedd yn mynd at ‘Draethwr Tynged’ ac roedd yn poeni y byddai rhywbeth ofnadwy yn digwydd inni.
Gwnaeth fy rhieni ysgaru pan oeddwyn yn un ar bymtheg oed, bu’n rhaid i mi wneud llawer o’r gwaith tÅ· a helpu i edrych ar ol fy chwaer a’m dau frawd, doedd gen i ddim bywyd fy hun, ‘roeddwn mor ddigalon a’r cyfan oeddwn eisiau oedd gadael cartref.
‘Roedd fy ffrindiau i gyd yn Gristnogion a phan oeddwn yn ddwy ar bymtheg fe aethom i gyd i gyfarfodydd arbennig ym Mirmingham, lle yr oddwn yn byw ar y pryd. Gofynais i Iesu ddod i mewn i’m bywyd, er nad oeddwn yn hollol siwr beth o olygai; ‘roeddwn eisiau bywyd gwell, a theimlais y byddai Ef yn fy helpu, gofynais iddo am gartref iawn a theulu.
Er yn drist iawn bu farw fy nhad mewn damwain ychydig wedi hyn, gwnaeth fy sefyllfa wella, gadewais gartref ac addysgu i fod yn nyrs, gwaith a gerais. Yna pan oeddwn yn ugain oed, mi wnes gwrdd a’m darpar ŵr, priodasom ddwy flynedd yn ddiweddarach. Cawsom ddwy ferch fach ac yr oeddwn yn hapus, ‘roedd gennyf bopeth yr oeddwn wastad ei eisiau. ‘Roeddwn wedi stopio mynd i’r eglwys ond ‘roeddwn eisiau iddynt hwy fynd i’r ysgol Sul fel gwnes i. ’Roedd hi’n anodd iawn mynd i mewn i eglwys gan nad oeddwn yn adnabad neb, ond cefais hyd eglwys dda dechreuais ynd yn gyson, gobeithiwn mewn amser y byddai fy ngŵr yn dod hefyd.
‘Roeddwn newydd symud i dÅ· newydd neis, ac yn gweithio’n rhan amser pan ddeallais fy mod yn disgwyl efeilliaid, ‘roedd fy sicrwydd yn teimlo fel petai’n cael ei fygwth a meddyliais lawer sut y gallem ymdopi, dysgais yn raddol i ddibynu’n llwyr ar Dduw. Ond yn ddiweddarach pan wnaethom symud i Gymru ychydig wedi marwolaeth fy mam euthum yn wael a chael ‘Breakdown’. Treulais lawer o amser yn yr ysbyty ac nid oeddwn eisiau gwynebu neb, ond perswadiodd fy merch ganol fi i fynd i eglwys fywiog gerllaw; gwnaeth y Gweinidog weddio gyda mi ac yn syth gwyddwn fod Duw wedi maddau fy holl bechodau, nid oeddwn wedi sylweddoli hyn yn nwfn fy nghalon o’r blaen, ‘roedd yn brofiad arbennig.
Mae fy ngŵr yn abnabod Iesu ‘nawr ac yr ydym wedi dysgu llawer gyda’n gilydd, ‘rwy’n dal i gael amseroedd isel ond ‘rwyf wedi gweld Duw yn gofalu amdanaf a fy nghynnal drwyddo i gyd, ‘r’wyf llawer yn fwy sicr fel person, a hyderus yn Ei gariad. ‘Rwy’n teimlo Ei bresenoldeb pan fyddaf Ei angen, yn rhoi imi obaith a chysur.
Annette
Gogledd Cymru