pwy-ydym-ni
Mae Cymru i Grist yn weinidogaeth a sefydlwyd i estyn teyrnas Dduw trwy.
- rannu’r newyddion da am Iesu
- helpu’r eglwys dyfu a gweithredu’n well
- nnog Cristnogion drwy’r byd i weddïo am Gymru.
Mae gennym ddwy ffordd o weithio, y wefan hon a gweinidogaeth bersonol. Pwrpas y wefan yw rhannu’r newyddion da a darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’r eglwysi lleol yng Nghymru Cliciwch ar adnoddau’r wefan am fwy o fanylion.


Rydym yn dod yn wreiddiol o Ogledd Lloegr a daethom i fyw i Ogledd Cymru yn ystod haf 1998 wedi i ni gymryd rhan mewn gwaith cenhadu yn yr ardal. ‘Rydym yn briod ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac mae gennym dri o blant sydd wedi priodi. Fel athrawon gyda’r awdurdod lleol ers nifer o flynyddoedd, ‘rydym wedi dysgu pob oed, yn y brif ffrwd ac mewn addysg arbennig.
Fe ddaethom ein dau yn Gristnogion yn ein harddegau a buom yn ymwneud ag eglwysi o wahanol enwadau a chefndir; ‘rydym yn mynd i eglwys yn ein hardal leol. Mae ein profiad yn cynnwys:-
- gwaith gyda phlant.
- gwneud a chyhoeddi defnydd ysgrifenedig.
- gwahanol ffyrdd o efengylu.
- pregethu mewn eglwysi.
- dros y blynyddoedd olaf dysgu a gweinidogaethu mewn gwledydd yn yr Undeb Sofietaidd blaenorol.
Am fwy o fanylion cliciwch ar adnoddau gweinidogaeth.
info@wales4jesus.org.uk
Trwy’r post P.O. Box 82. Llandudno. LL32 8ZG