sut-i-cyfarfod-Iesu

Os ydych wedi darllen yr ‘hanesion gwir’ yna fe welwch fod pobl gyffredin, yn union fel chi a fi, yn gallu cyfarfod Duw a phrofi ei gariad yn ein bywyd.

Sut mae hyn yn digwydd? Sut mae’n gweithio?

Duw a’n creodd ni i gyd, ac mae’n ein caru yn fwy nag y gallwn ei ddychmygu. Erioed, ei fwriad oedd ein bod ni’n dod i adnabod y cariad hwn, ond ein dewis ni oedd ei anwybyddu neu ei wthio i ffwrdd. Ein dymuniad ni ydi byw ein bywyd yn ein ffordd ein hunain. Gwrthryfelwn yn ei erbyn ac y mae hynny wedi creu rhwystr rhyngom ni a Duw. Pechod ydi’r enw ar y rhwystr hwn. Mae’n ein hatal rhag teimlo cariad Duw, ac yn creu gwacter y tu mewn inni.

Mae pobl yn ceisio llenwi’r gwacter hwn efo gwahanol bethau – crefydd, arian, llwyddiant, perthnasau, gwneud daioni, diod a chyffuriau, bwyd, rhyw, antur, gwyliau, yr ocwlt – mae’r rhestr yn faith. Ond does dim sy’n bodloni am yn hir oherwydd creodd Duw inni fod yn llawn o’i gariad Ef.

Allwn ni ddim a thorri’r rhwystr hwn ein hunain ond y mae Duw yn ein caru er gwaethaf y llanast a wnawn o’n bywyd a’r holl ffyrdd yr awn ni ar grwydr.

Daeth Iesu, Duw ei hun, i’r ddaear i ddangos cariad Duw inni trwy farw ar groes. Roedd ei farwolaeth yn ofnadwy oherwydd cymerodd ef arno’i hun ein holl annibendod ni a thalu’r pris amdano. Yna cododd eto’n fyw o’r bedd. Mae am inni adnabod cariad Duw a rhoi’r grym inni allu byw ein bywyd yn iawn. Gallwch chi gyfarfod a Duw heddiw trwy Iesu.

Sut allwch chi wneud hynny?

Cyaddefwch eich beiau i Dduw Dad a gofynnwch iddo faddau ichi. Dywedwch wrtho eich bod eisiau newid a dod yn ôl i’w deulu.

Diolchwch i Iesu am fynd a’ch annibendod i gyd i’w farwolaeth ar y groes. Gofynwch iddo ddod i’ch bywyd mewn ffordd real. Ymddiriedwch eich dyfodol iddo a dilynwch ei arweinaid.

Wrth ichi ofyn i Iesu reoli eich bywyd, daw trwy ei Ysbryd Glan a’ch llenwi efo cariad Duw a’ch galluogi i fyw bywyd sy’n ddymunol iddo.

Efallai yr hoffech ddefnyddio’r weddi hon i siarad efo Duw.



Dduw Dad – diolch dy fod yn fy ngharu ac am imi fod yn rhan o dy deulu. Rwyn dod atat rwan yn union fel ag yr ydwyf.

Gwn nad wy’n berffaith.
Mae diogn o bethau a wnethum y mae gennyf gywilydd ohonynt, a phethau y dylwn fod wedi eu gwneud ond nas gwneuthum. Maddau imi, os gweli di’n dda, a helpa fi newid. Rwyf wedi ceisio byw yn fy ffordd fy hun, rwan rwyf am fyw yn dy ffordd di.

Iesu rwyn credu ynot ti. Diolch am farw drosof a thalu am fy holl feiau.
Rwyn rhoi fy holl euogrwydd a’m methiannau i ti.
Diolch am faddau imi.
Rwyn ymddiried ynot rwan efo’r cwbl sydd gen i, a’r cwbl ydwyf fi.

Bydd yn arglwydd imi, yn frenin ac yn waredwr.
Llenwa fi efo dy Ysbryd, dy rym sanctaidd.
Gwna fi yr hyn y dylwn fod.
Rwyf am dy ddilyn di weddill fy mywyd.



Os ydych wedi gweddïo y weddi hon o’ch calon yna mae Duw wedi rhoi bywyd newydd ichi. Ac fel unrhyw fywyd newydd mae angen gofalu amdano.

Siardwch efo Duw bob dydd a dilynwch ei arweiniad.
Darllenwch ei air, y Beibl, mewn fersiwn sy’n hawdd ei ddeall.
Darganfyddwch eraill oddi fewn i deulu Duw a all eich helpu i dyfu, trwy berthyn i eglwys sy’n gofalu.

Efallai yr hoffech ymuno a Christnogion newydd eraill ar gyrsiau megis Alffa. Ewch i www.uk.alphacourse.org i weld lle mae’r cwrs agosach atoch, neu www.alphacourse.org y tu allan i Brydain.
Ebostiwch ni am fwy o help neu os hoffech lyfrynau gennym. enquiries@wales4jesus.org.uk