yn wastad yno?

Roedd yna amseroedd da ar y cychwyn, ond rwyn cofio eistedd ar waelod y grisiau hefo fy chwaer ieuengaf mewn dagrau pan roedd mam a dad yn ffraeo lawr y grisiau. Roeddwn yn arfer chwarae gyda`r plant eraill ar y stryd, a chanu yng nghôr yr eglwys- roedd yna rywbeth nerthol yn mynd ymlaen yno ond nid oedd neb arall yn sylweddoli rhywsut. Yna un diwrnod dywedodd mam na fyddai dad yn dod adref, euthum i`w weld ef am benwythnos bob bythefnos ac am hanner bob gwyliau. Un penwythnos pan ddaeth i bigo fy chwaer a mi i fyny, fe roddodd ei droed trwy`r drws, wedi hynny bu`n rhaid i ni fynd allan i`w gyfarfod. Ar ol rhyw ddeufis, dywedodd fy mam y byddwn yn mynd i ffwrdd i ysgol, ond nid oeddwn i ddweud wrth neb, yn enwedig fy nhad.

Roeddwn yn unarddeg pan es i ysgol breswyl, cefais freuddwydion drwg ar y dechrau, mewn un roedd fy nhad yn troi i fyny ac ni allwn ei atal rhag saethu fy mam a`m chwaer. Roedd tymhorau ysgol oddeutu deuddeg wythnos o hyd, ac roeddwn yn cael gweld fy mam oddeutu bob tair wythnos ond nid oeddwn yn cael gweld fy nhad ar y cychwyn.

Un noson eisteddais ar ffram ddringo, fy hun yn y tywyllwch gan ddechrau siarad gyda`r presenoldeb cysurus a deimlais yn yr eglwys gartref. Roeddwn eisiau Iesu gofnodi sut yr oeddwn a beth roeddwn yn mynd drwyddo, nid oedd neb arall.

Roedd yna tua chwe chant o blant o ysgol feithrin hyd at y chweched dosbarth, roedd rhai ohonom yn byw mewn cytiau gerddi neu gelloedd concrit, nid oeddym yn cael cig fel bwyd ond yr oeddym yn cael gwneud beth bynnag oeddym eisiau mwy neu lai- rhyw, cyffuriau a roc a rol, roedd yn rhaid ini fod yn lladron cyfrwys a chrintachlyd i oroesi. Dechreuais lithro allan i Eglwys Fedyddwyr yn y dref, darllenais ddarnau allan o`r Beibl: Roeddynt yn teimlo fel llythyrau o`m cartref, siaradais a Iesu fwy. Cefais fy medyddio mewn dwr mewn Eglwys yng nhganol yr haf yn 1987. Wedi bod yn yr ysgol am saith mlynedd, cefais rhai arholiadau a mynd i goleg. Ar ol cyrraedd y coleg roeddwn yn meddwl eu bod wedi rhoi ystafell athrawon i mi mewn camgymeriad: roedd yna ddwy gadair gyffyrddus, goleadau a desg, dwr poeth ag oer. Cymerodd flwyddyn i mi ymddiried yn y bobl eraill.

Roedd yna glwb i bobl roedd yn adnabod Iesu, ac fe ymunais ag ef, ar y penwythnosau roeddwn yn gwario llawer o amser gyda myfyrwyr o`r Affrig, roeddem yn gweddio, weithiau yn uchel, canu a darllen y Beibl Sanctaidd. Yn aml siaradem am bethau rhyfeddol yr oedd Iesu wedi eu egluro i ni yn oruwchnaturiol. Rwyn cofio teimlo nerth anferthol a thangnefedd gwynfydedig, dechreuais newid y ffordd yr oeddwn yn ymddwyn a phobl eraill i roi gwell argraff o Iesu. Rhoddais heibio alcohol a cherddoriaeth gwyllt.

Gadewais y coleg amseroedd yn ol a symudais i Fangor yng Ngolgledd Cymru. Unwaith gweddiodd y gweinidog yn yr eglwys yno i mi deimlo fod Iesu yn wirioneddol fy ngharu, mi wylais ac mi wylais. Wedi hynny roeddwn yn medru bod yn glen a siarad gyda phobl oedd gynt yn fy ngwneud i`m deimlo`n chwerw, diflas neu`n sbeitlyd. Rwyf wedi cael gwaith byr o`r cylch ond rwyf wastad wedi dod yn ol.

Ar hyn o bryd, rwy`n gweithio gyda Chyngor Sir Norfolk, mae dwy eglwys lle rwy`n helpu gyda cherddoriaeth, grwpiau Beiblaidd sy`n cyfarfod mewn cartrefi a grwp Cristnogol sy`n cyfarfod mewn carchar lleol i annog y carcharorion. Gyda llaw, rwyf hyd yn oed yn ystyried bod yn weinidog yn yr eglwys.

Dominic
Gogledd Cymru alltyd.